Rhif y ddeiseb: P-06-1344

Teitl y ddeiseb: Dylid defnyddio tir amaethyddol o ansawdd cymedrol (gradd 3b) ar gyfer diogeledd bwyd ac nid ar gyfer ffermydd solar

Geiriad y ddeiseb: Rhaid inni warchod tir categori 3b i sicrhau diogeledd bwyd:

• Dim ond 10-13 y cant o Gymru sydd yn dir Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (gradd 1 i radd 3a). Mae newid hinsawdd yn peryglu newid i raddfeydd tir amaethyddol

• Mae tir 3b yn cynnal cnydau

• Mae ffermydd solar sydd â thir gradd 3a o fewn clytiau tir 3b yn cael eu cymeradwyo (yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru). Mae adeiladu/datgomisiynu yn difrodi tir yn barhaol; bydd tir categori 3a yn cael ei golli

• Nid oes dim rhwymedigaeth gytundebol i hawliadau pwrpas deuol wneud iawn am golli tir - anaml y mae defaid yn pori o dan baneli solar.

 

Mae datblygwyr yn targedu polisïau cynllunio mwy caniataol Llywodraeth Cymru: Mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar gynigion dros 10MW, ac awdurdodau cynllunio lleol Lloegr a’r Alban yn penderfynu ar gynigion hyd at 50MW. Safleoedd tir llwyd, eiddo preswyl ac adeiladau masnachol yw’r lleol mwyaf addas ar gyfer paneli solar: defnyddiwch y cysylltiadau grid presennol, i leihau biliau trydan i bobl leol a chyflenwch drydan dros ben i'r Grid Cenedlaethol = llai o alw am drydan y grid, ac yna caiff ein tir amaethyddol (ein sicrwydd bwyd) ei gynnal.

 

• Polisi Pridd Llywodraeth Cymru ac Uned Cynllunio Defnydd Tir Amaethyddol 2018-19 Rhaglen Dystiolaeth Polisi Pridd Chwefror 2020

https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-05/dosbarthiad-tir-amaethyddol-cwestiynau-cyffredin.pdf

• PEDW DNS/3245065 Penderfyniad Gweinidog Cymru 27/10/22

• PEDW DNS/3267575 2022-12-19 REPS009WGNewidHinsawdd

 

Mae CAEVOD yn gwrthwynebu gorddatblygu yn Nwyrain Bro Morgannwg. Rydym yn cefnogi ynni adnewyddadwy yn y lleoliad cywir: sef bod yn niwtral o ran carbon yng Nghymru heb ddinistrio ein cefn gwlad.

 


1.        Y cefndir

1.1.            Crynodeb

Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu ei pholisi ar dir amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (BMV) i gynnwys tir 3B.

Ei pholisi cynllunio yw osgoi datblygiad ar dir amaethyddol BMV Cymru oni bai bod ‘angen sy’n drech na dim arall’ am y datblygiad ac nad oes tir amgen addas ar gael (gweler isod).

Diffinnir tir amaethyddol BMV fel graddau 1, 2 a 3a o’r system Dosbarthiad Tir Amaethyddol (ALC).. Mae hwn yn dir o ansawdd ‘da’ i ‘rhagorol’. Ystyrir bod tir 3b o ansawdd ‘cymedrol’ ac mae ganddo allu mwy cyfyngedig yn yr ystod o gnydau y gellir eu tyfu.

Mae llythyr y Gweinidog at y Pwyllgor ynghylch y ddeiseb hon yn cynnwys manylion technegol am y system ALC a nodweddion graddau pridd.

1.2.          Polisi cynllunio

Mae Cymru’r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040 yn nodi

 

 

Mae ein tir cynhyrchiol yn adnodd hanfodol. Mae amaethyddiaeth wedi creu ein tirluniau a chefnogi ein trefi gwledig a marchnad ers cenedlaethau. Rhaid inni barhau i werthfawrogi a diogelu ein tir amaethyddol a sicrhau y gall ein bwydo a'n cynnal.

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi:

3.55 Dylid defnyddio tir gafodd ei ddatblygu o’r blaen (tir llwyd fel y’i gelwir), lle medrir, yn lle safleoedd maes glas os yw’n addas datblygu arno.

a:

3.59 Wrth ystyried y drefn chwilio ac ym mholisïau’r cynllun datblygu a’r penderfyniadau rheoli datblygu, dylid rhoi cryn bwys ar ddiogelu tir o’r fath rhag ei ddatblygu, oherwydd ei bwysigrwydd arbennig. Ni ddylid datblygu tir o raddau 1, 2 a 3a, onid oes angen sy’n drech na dim arall am y datblygiad, ac os nad oes tir a ddefnyddiwyd o’r blaen neu dir o raddau amaethyddol is ar gael, neu os oes gan y tir o radd amaethyddol is werth amgylcheddol a gydnabyddir drwy ddynodiad tirwedd, bywyd gwyllt, hanesyddol neu archeolegol, a bod hynny’n drech na’r ystyriaethau amaethyddol.

1.3.          Penderfyniadau cynllunio

Ystyrir datblygiadau ynni adnewyddadwy o 10 megawat (MW) neu fwy yn Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS). Gwneir ceisiadau am DNS i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru er mwyn i Weinidogion Cymru benderfynu arnynt.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fil Seilwaith (Cymru) gerbron y Senedd ar 12 Mehefin 2023. Mae’r Bil yn sefydlu system gydsynio newydd ar gyfer datblygiadau seilwaith mawr, gan gynnwys datblygiadau ynni adnewyddadwy.

Mae’r Bil, fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, yn codi’r trothwy is ar gyfer penderfyniadau gan Weinidogion Cymru o 10MW i 50MW sy’n golygu pe bai’r Bil yn dod yn gyfraith yn ei ffurf bresennol, y byddai’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn penderfynu datblygiadau ynni adnewyddadwy o lai na 50MW.

1.4.          Y System Dosbarthiad Tir Amaethyddol

Mae’r system Dosbarthiad Tir Amaethyddol yn darparu dull ar gyfer asesu ansawdd tir amaeth yng Nghymru a Lloegr. Mae’n dosbarthu tir yn bum gradd, lle 1 yw’r gorau a 5 yw’r gwaethaf ac mae gradd 3 wedi’i his-rannu’n is-raddau 3a a 3b.

Disgrifir y fethodoleg raddio bresennol yn y Canllawiau a Meini Prawf Diwygiedig ar gyfer Dosbarthiad Tir Amaethyddol Cymru a Lloegr ar gyfer Graddio Ansawdd Tir Amaethyddol (MAFF 1988).

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Yn ei llythyr at y Pwyllgor ar y ddeiseb hon, mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn nodi:

§    Ysgrifennodd at bob Awdurdod Cynllunio Lleol yng Nghymru ym mis Mawrth 2022 i gyfeirio unwaith eto at bolisi cynllunio cenedlaethol ar ddiogelu tir amaethyddol BMV. Roedd y llythyr yn benodol yng nghyd-destun datblygu araeau solar ffotofoltaig (PV): Tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas ac araeau PV solar.

§    Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi adolygiad tystiolaeth i ‘Effaith safleoedd solar ffotofoltaig (PV) ar briddoedd amaethyddol ac ansawdd tir’ yn ystod yr haf. Mae’r Gweinidog yn dweud y byddai’n falch o’i rannu â’r Pwyllgor ar ôl ei gyhoeddi.

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd nad os ganddi unrhyw gynlluniau i adolygu ei pholisi ar dir amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (BMV) i gynnwys tir is-radd 3B.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Nid yw’r mater o gynnwys tir is-radd 3b o fewn y diffiniad o dir amaethyddol BMV wedi’i drafod yn y Senedd o’r blaen.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.